SL(6)739 – Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026

Cefndir a Diben

Daeth Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) i rym ar 6 Ebrill 2024 ac maent yn cynnwys, ymhlith eraill, ddyletswydd statudol ar feddianwyr mangreoedd annomestig yng Nghymru (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector) i gyflwyno offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (“sWEEE”) ar wahân i’w casglu a’u hailgylchu ymlaen.

Bydd Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026 (“y Rheoliadau hyn”) yn diwygio Rheoliadau 2023 i’w gwneud yn ofynnol i bob mangre annomestig gadw eu sWEEE (nid dim ond sWEEE heb eu gwerthu) ar wahân i’r holl ffrydiau gwastraff eraill a threfnu iddynt gael eu casglu gan gludwr gwastraff trwyddedig neu fynd â hwy i fan gollwng addas i’w hailgylchu. Byddant yn creu rhwymedigaeth gyfatebol ar gasglwyr gwastraff sy’n casglu sWEEE i wneud hynny ar wahân i ddeunyddiau eraill, i beidio â chymysgu sWEEE wedyn a’u hanfon i’w hailgylchu.

Gweithdrefn

Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn darparu bod drafft o’r cod ymarfer diwygiedig “Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru” wedi’i osod at ddibenion gwybodaeth. At hynny, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, dyddiedig 27 Ionawr 2026, nodir y bydd fersiwn derfynol y Cod Ymarfer diwygiedig yn cael ei chyhoeddi a’i gosod gerbron y Senedd ar ôl gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Chwefror 2026